Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

11 Mehefin 2018

SL(5)219 – Rheoliadau Traffordd yr M4 (Ffyrdd Ymadael tua’r Dwyrain a thua’r Gorllewin wrth Gyffordd 33 (Capel Llanilltern), Caerdydd) (Terfyn Cyflymder 40 MYA) 2018

Gweithdrefn: Negyddol

Mae’r Rheoliadau hyn yn gosod terfyn cyflymder uchaf o 40 milltir yr awr (yn lle’r terfyn cyflymder cyffredinol o 70 milltir yr awr a osodir ar draffyrdd gan Reoliadau Traffig Traffyrdd (Terfyn Cyflymder) 1974 (O.S. 1974/502)) ar y darnau o ffyrdd ymadael traffordd yr M4 a bennir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn

Rhiant-Ddeddf: Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984(

Fe’u gwnaed ar: 17 Mai 2018

Fe’u gosodwyd ar: 25 Mai 2018

Yn dod i rym ar: 18 Mehefin 2018

SL(5)224 – Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) 2018

Gweithdrefn: Negyddol

Mae'r Gorchymyn hwn yn nodi'r ffioedd sy'n daladwy i Weinidogion Cymru ym maes iechyd anifeiliaid yn ymwneud â thrwyddedu rhai crynoadau anifeiliaid yng Nghymru. Y ffioedd a bennwyd yw 50% o’r gost lawn o adennill y costau a ysgwyddodd Gweinidogion Cymru rhwng 30 Mehefin 2018 a 30 Mehefin 2019, a 100% o'r gost lawn wedi hynny.

Rhiant-Ddeddf: Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981

Fe’u gwnaed ar: 22 Mai 2018

Fe’u gosodwyd ar: 30 Mai 2018

Yn dod i rym ar: 30 Mehefin 2018